Yr wythnos ddiwethaf cafodd ein myfyrwyr ym Mlwyddyn 11 gyfweliad ffug gan gyflogwyr lleol. Croesawyd 18 o gyflogwyr o ystod eang o ddiwydiannau gan gynnwys sectorau megis lletygarwch, STEM, y gyfraith a'r gofal iechyd. Cafodd y myfyrwyr gyfle i arddangos eu sgiliau cyflogadwyedd yn ogystal â'r cyfle i ddatblygu a pherffeithio eu techneg cyfweliad.