Annwyl Riant/Warcheidwad, Mae’r costau byw wedi cynyddu’n aruthrol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac rydym am geisio ei gwneud yn llawer haws i bawb a allai fod yn ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd. Hoffem hwyluso cyfnewidfa gwisg ysgol. Mae plant yn tyfu i fyny mor gyflym, ac efallai bod eu gwisg ysgol yn parhau i fod mewn cyflwr gwych. Hoffem gasglu unrhyw wisg ysgol sydd gennych sy'n dderbyniol i eraill ei ddefnyddio ac nad yw bellach yn cael ei ddefnyddio gan eich plentyn. Nid yn unig y bydd hyn yn wych i eraill a allai elwa, ond hefyd yn dda ar gyfer cynaliadwyedd! Byddwn yn cynnal noson gyfnewid, Nos Fercher Gorffennaf y 5ed rhwng 3yp a 7:30yh lle gall unrhyw un ddod er mwyn cymryd rhywfaint o wisg ysgol. Byddwn hefyd yn trefnu i'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth fod yma i geisio helpu i sicrhau bod pawb yn derbyn y cymorth y gallent fod yn gymwys i'w gael. Gofynnwn yn garedig iawn i chi anfon unrhyw eitemau i'r Hwb (gwasanaethau’r myfyrwyr) yn yr ysgol . Byddem hefyd yn ddiolchgar iawn pe bai modd i'r eitemau gael eu golchi a'u smwddio os yn bosibl. Hoffem dderbyn unrhyw eitemau erbyn Dydd Gwener Mehefin 30ain, 2023 os gwelwch yn dda.