Luke Reardon Blwyddyn 13
Lily Eve Williams Blwyddyn 13
Rhaglen a sefydlwyd gan Ganolfan Grefftau Rhuthun ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio a Thechnoleg UG a Safon Uwch talentog yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yw Codi'r Bar.
Mae'r cynllun yn cynnig rhaglen o gyfleoedd ychwanegol i'r rhai sy'n dangos teilyngdod artistig er mwyn galluogi mynediad i ymarfer artistig lefel uchel; hyrwyddo ymgysylltiad ag ymarferwyr cyfoes a mynediad at dechnegau arbenigol mewn celf a dylunio cymhwysol yn ychwanegol at yr hynny sydd ar gael yn yr ysgolion.
Mae Codi'r Bar hefyd yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc drwy ddyfnhau eu gwybodaeth am yr ystod eang o yrfaoedd artistig a chyfleoedd addysg bellach drwy ein rhaglen gyrfaoedd.
Mae'r llyfryn hwn yn ddathliad o'r dosbarthiadau meistr a'r gwaith a gyflawnwyd gan y cyfranogwyr a chyflwyniad i'r artistiaid a'r gwneuthurwyr dan sylw a barhaodd i ysbrydoli, gefnogi ac annog y myfyrwyr.
Da iawn i Luke a Lily, 'rydym yn falch iawn o'r hyn yr ydych wedi'i gyflawni.