Chweched Dosbarth Ysgol Dinas Brân; amgylchedd dysgu llwyddiannus a bywiog ble rydym yn anelu i ddarparu’r cyfleoedd a’r gofal bugeiliol gorau oll ar gyfer ein holl fyfyrwyr. Mae’r chweched dosbarth yn cynnig ystod o gyrsiau sy’n cael eu dysgu gan athrawon ymroddgar a phrofiadol iawn. Mae’r canlyniadau tros y blynyddoedd yn siarad trostynt eu hunain ac rydym yn falch iawn o’r safonau a gyflawnir yma. Mae gennym gyfleusterau gwych, gan gynnwys Canolfan Gymdeithasol llawn adnoddau sydd newydd ei hadnewyddu a Pharth Dysgu heddychlon ble anogir disgyblion i astudio’n annibynnol.
Mae holl ystafelloedd dosbarth yr ysgol yn olau a dymunol ac mae’r cyfleusterau TGCh yn rhagorol; mae rhwydwaith lawn drwy’r ysgol ac mae ystafelloedd cyfrifiadurol ar gael ym mhob ardal cwricwlwm. A dweud y gwir, mae Ysgol Dinas Brân yn amgylchedd addysgol eithriadol.
Mae cyfleoedd lu i fyfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau tîm, gan gynnwys gwaith Elusen a digwyddiadau codi arian Menter yr Ifanc a Mentora Cymheiriaid. Mae’r gweithgareddau allgyrsiol yma yn gyfle delfrydol i fyfyrwyr dyfu mewn hyder, cwrdd â phobl newydd a datblygu ymhellach y sgiliau hanfodol sydd eu hangen i lwyddo mewn bywyd. Yn sicr, mae pwyslais cryf yn cael ei roi ar helpu ein myfyrwyr i ddatblygu yn ddinasyddion parchus a chyfrifol yn ogystal â’u cynorthwyo i gyflawni eu potensial yn academaidd.
Mae ein cymwysterau BTEC yn cynnig pecyn mwy galwedigaethol i fyfyrwyr ac yn darparu’r sgiliau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fynd ymlaen i astudio mewn Prifysgol neu gychwyn ar brentisiaethau. Rydym yn annog pob myfyriwr i weithio tuag at y Dystysgrif Her Sgiliau. Mae hwn yn gymhwyster cyffrous ac amlbwrpas sydd yn ychwanegu gwerth a dimensiwn newydd i’r pynciau a’r cyrsiau sydd eisoes ar gael i fyfyrwyr. Mae’r cymhwyster gwerthfawr yma yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i’r dyfodol.
Cofion cynnes,
Mr A. Derbyshire, Pennaeth y Chweched Dosbarth