Chwaraeodd ein tîm pêl-droed merched dan 15 oed yn anhygoel yn erbyn Bryn Alyn a daethant oddi yno gyda buddugoliaeth o 10-0. Sgoriwyd y goliau gan Hermione x 4, Olivia Pugh x 3, Jess Bowen x 1, Emily Davies x 1, Maisie H x 1. Dyma'r tro cyntaf i'r merched chwarae gyda'i gilydd ac roedden nhw'n wych o'r dechrau i'r diwedd. Da iawn chi genod.
Buddugoliaethau gwych i dimau Blwyddyn 7 a 9 yn erbyn Darland yng Nghwpan Cymru! Tîm Blwyddyn 7 yn cipio’r fuddugoliaeth 3–2 mewn gêm anhygoel – goliau gan Jack Williams, Theo James, a’r gôl fuddugol yn y funud olaf gan Armin Copple! Roedd tîm Blwyddyn 9 ar dân hefyd, yn ennill 5–1 – Jack Williams gyda pedair gôl anhygoel a Nani Mogali yn ychwanegu un arall! Ac i goroni’r noson – pedwar o frodyr yn cynrychioli YDB ar yr un noson! Osian Jones gyda’r tîm Blwyddyn 9, a Jorj, Jack ac Isaac Jones yn chwarae i’r tîm Blwyddyn 7. Llongyfarchiadau i bawb!
Y 6ed dosbarth– am griw o fechgyn anhygoel sy’ bob amser yn gweithio mor galed. Mae hi bob amser yn bleser mynd â nhw i unrhyw gystadleuaeth. Cawsant fuddugoliaeth wych o 3–0 oddi cartref yn erbyn y Fflint yng Nghwpan Cymru, gyda gôl gan Will Cooke a dwy gan Tom Watkins. Llongyfarchiadau enfawr i’r tîm!