Chwaraeon


Rydym wedi cael wythnos hynod brysur gyda gweithgareddau Addysg Gorfforol yr wythnos hon: Dydd Mawrth Mai 16, bu i dros 50 o ddisgyblion gymryd rhan yng nghystadleuaeth y ‘Ffordd i Wimbledon’. Enillwyr Blwyddyn 7 oedd Joseph Rowlands ac Olivia Pugh. Enillwyr Blwyddyn 8 oedd Cai Newell a Charley Williams. Enillwyr Blwyddyn 9 oedd Tudur a Phoebe Roberts. Y prif enillwyr oedd Phoebe Roberts a Cai Newell sydd bellach yn gymwys ar gyfer cymal Sirol y digwyddiad. Bydd enillydd y digwyddiad Sirol yn gymwys i chwarae yn Wimbledon. Dydd Iau Mai 18- Pêl-rwyd Blwyddyn 7 v Ysgol Uwchradd Dinbych. Canlyniad Ffantastig Dinas Brân yn ennill 12 - 0. Pêl-rwyd Blwyddyn 10 yn erbyn Ysgol Dinbych. Unwaith eto cafwyd canlyniad gwych gyda chymorth Florence a Delilah o Flwyddyn 9 a Sienna ac Evie o flwyddyn 8 lle y bu i Ysgol Dinas Brân ennill 12-1. Pêl-droed Cymysg Blwyddyn 8 7 bob ochr, cafwyd ymdrech arbennig gan yr holl chwaraewyr. Y canlyniad - Dinas Brân ennill 1 a cholli 3.

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar