Cawsom ymweliad hyfryd a diddorol iawn â Haworth i gefnogi astudiaeth Blwyddyn 12 o 'Jane Eyre'. Mynychodd y myfyrwyr ddau weithdy am y nofel a Charlotte Bronte, yn ogystal â thaith gerdded dywysedig (yn y glaw) ac ymweld â'r persondy lle'r oedd y teulu Bronte yn byw. Roedd y myfyrwyr yn rhagorol. Diolch yn arbennig iawn i A Savage am roi diwrnod o'i hanner tymor i'n gyrru ni yno ac yn ôl - a hefyd am ddarllen Jane Eyre.