Yn ddiweddar bu dosbarth o flwyddyn 8 a blwyddyn 9 yn rhan o bartneriaeth rhwng Sw Caer a wardeniaid y parc yr AHNE er mwyn achub rhywogaeth o goed sydd mewn perygl difrifol. Yn ôl cyfrif, dim ond ychydig dros 300 o Gerddin Gwyn sydd i’w gweld ledled y byd, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt i’w canfod yn yr ardal o amgylch Llangollen a Chastell Dinas Brân. Fel rhan o'u gwaith i achub rhywogaethau sydd mewn perygl difrifol, mae Sw Caer wedi tyfu nifer o Gerddin Gwyn Llangollen o aeron y coed presennol yn eu labordai. Mae Dyffryn Dyfrdwy yn ardal sydd wedi ei ddynodi fel ardal o harddwch cenedlaethol eithriadol ac mae'n cael ei wthio i gael ei gydnabod fel Parc Cenedlaethol. Mae Rhun Jones, sef Uwch Warden Cefn Gwlad AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn gweithio gyda Sw Caer i achub y rhywogaeth yma drwy blannu’r Gerddinen Wen mewn ardaloedd addas. Byddwn yn cyd weithio â Rhun mewn gweithdai ac ar brosiectau eraill yn yr AHNE fel rhan o’r Cwricwlwm Newydd o fewn pynciau megis Daearyddiaeth a Gwyddoniaeth, a gobeithio y byddwn yn creu cyswllt â Sw Caer fel rhan o'r astudiaeth wyddonol hon. Roedd y myfyrwyr wedi cyffroi ac wedi ymddiddori'n fawr yn eu rhan yn achub y rhywogaeth hon ac roeddynt yn wir, yn glod i'r ysgol.