Bu disgyblion 8D yn brysur iawn yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn creu cerddi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn eu gwersi Cymraeg. Bu pob un disgybl yn y dosbarth yn llwyddiannus yn creu cerddi a cafwyd bwrlwm yn y dosbarth pan ddaeth Mr Williams a Mr Phillips i feirniadu’r cerddi gorau. Llongyfarchiadau i Ieuan Calcraft am ddod yn 1af, Elin Davies yn 2il ac Annabel Pearce yn 3ydd. Da iawn i bawb arall hefyd am gwblhau gwaith gwych – Ardderchog 8D!