Bu tîm o '1st Llangollen Explorers' yn cynnwys pedwar disgybl o Ysgol Dinas Brân sef Myah, William, Elan ac Elin, yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Tlws John Bradbury yn Gradbach, a llwyddasant i ddod yn fuddugol. Mae Tlws John Bradbury yn gystadleuaeth heriol sy’n profi sgiliau llywio a gwaith tîm Explorers yn ardal y Peak District. Mae’r her yn cynnwys taith gerdded hir, gweithgareddau cyfeiriannu a chyfres o dasgau sy’n asesu sgiliau llywio, arsylwi, sgiliau ymarferol Sgowtiaid, gwybodaeth gyffredinol a’r gallu i gydweithio’n effeithiol fel tîm. Cafodd y criw benwythnos arbennig ac fe wnaethant gynrychioli 1st Llangollen Explorers ac Ysgol Dinas Brân yn rhagorol. Llongyfarchiadau mawr iddynt.